web
Vous êtes hors connexion. Ceci est une version en lecture seule de la page.
close

Mae’r wybodaeth ganlynol yma i’ch helpu i ddechrau defnyddio gwefan Cymunedau Gofal Cymdeithasol Cymru.


Beth allaf ei ddarganfod ar fy hafan?

  • Mynediad i'ch holl bethau: i lawr yr ochr chwith fe welwch ddolenni cyflym i'ch proffil, gosodiadau, hysbysiadau, negeseuon, grwpiau/cymunedau, cysylltiadau a ffefrynnau.

  • Eich gwahoddiadau a cheisiadau am gysylltiad: os ydych wedi cael gwahoddiad i gymuned neu grŵp, neu os oes rhywun wedi gofyn i gysylltu â chi, fe welwch y rhain ar frig eich tudalen hafan i'w derbyn.

  • Eich ffrwd gweithgarwch: wedi'i phersonoli ar eich cyfer yn seiliedig ar eich aelodaeth a'ch cysylltiadau, bydd hyn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am yr holl weithgarwch diweddaraf sy'n berthnasol i chi.

  • Cyhoeddiadau: mae unrhyw gyhoeddiadau pwysig am y platfform neu'ch cymunedau i'w gweld ar yr ochr dde.

  • Eich grwpiau a’ch cymunedau yr ymwelwyd â nhw yn fwyaf diweddar: hefyd ar y dde, gallwch gael mynediad hawdd i’r holl grwpiau a chymunedau rydych yn ymweld â nhw’n rheolaidd.


Sut ydw i'n diweddaru fy mhroffil

I fynd i'ch tudalen broffil ac adolygu a diweddaru gwybodaeth eich proffil, cliciwch ar eich llun proffil ar ochr dde uchaf y dudalen ac ewch i'ch proffil. Yma gallwch ddiweddaru eich llun proffil, delwedd gefndir, sefydliad, teitl swydd, cyfeiriad e-bost a manylion bywgraffyddol.

I ddiweddaru unrhyw ddarn o wybodaeth, cliciwch arno, diweddarwch y testun a'i arbed trwy glicio ar y tic glas (neu ar gyfer delweddau, uwchlwythwch ffeil pan ofynnir i chi wneud hynny).


Sut mae diweddaru fy hysbysiadau, gosodiadau preifatrwydd ac iaith neu newid fy nghyfrinair?

I newid unrhyw un o'ch gosodiadau, cliciwch ar eich llun proffil ar ochr dde uchaf y dudalen a dewis gosodiadau. Yma gallwch newid amlder eich hysbysiadau e-bost, eich gosodiadau preifatrwydd, dewis Cymraeg fel eich iaith ddiofyn neu newid eich cyfrinair.

I ddewis y Gymraeg fel eich dewis iaith, ewch i'r iaith a'r gylchfa amser o fewn eich gosodiadau a dewiswch iaith.


Sut mae cyrraedd fy ngrwpiau a'm cymunedau?

O'ch hafan, gallwch gyrraedd eich grwpiau a'ch cymunedau gan ddefnyddio'r rhestr yr ymwelwyd â hi yn ddiweddar ar y dde, neu drwy 'eich grwpiau' ar y chwith.


Sut mae gosod cymuned fel fy rhwydwaith cartref (diofyn) pan fyddaf yn mewngofnodi?

Mae gosod cymuned fel eich rhwydwaith cartref yn golygu y byddwch bob amser yn mewngofnodi i'r hafan gymunedol hon (yn hytrach na'ch tudalen hafan bersonol) a byddwch bob amser yn gweld y ddolen brandio cymunedol a thudalen hafan ar y llywio uchaf.

I osod hyn, dewiswch y 3 dot ar ochr dde'r hafan gymunedol a dewiswch 'set as home network'.