web
Vous êtes hors connexion. Ceci est une version en lecture seule de la page.
close

Hysbysiad Preifatrwydd

Mae gan Ofal Cymdeithasol Cymru gyfrifoldeb i ddiogelu eich data a chydymffurfio â deddfwriaeth, gan gynnwys Deddf Diogelu Data 2018, ac rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Dyma ein hysbysiad preifatrwydd.

Pan fyddwch yn rhyngweithio â Chymunedau Gofal Cymdeithasol Cymru rydym yn casglu gwybodaeth bersonol amdanoch, er enghraifft, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer cyfrif. Mae'r wybodaeth a gasglwn yn cynnwys manylion cyswllt cerdyn busnes, bywgraffiad a sgiliau proffesiynol, er mwyn llenwi proffil eich cyfrif. Eich proffil yw eich prif ffordd o rannu eich profiad a'ch arbenigedd gydag aelodau eraill o'r gymuned.

Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth at nifer o ddibenion gan gynnwys y canlynol:

  • I anfon rhybuddion atoch am gynnwys, grwpiau a phobl, yr ydych yn tanysgrifio iddynt, i'r cyfeiriad e-bost a enwebwch
  • Addasu'r ffordd y caiff cynnwys Cymunedau Gofal Cymdeithasol Cymru ei gyflwyno i chi. Er enghraifft, os byddwch yn dweud wrthym o ba sector rydych chi o'r cynnwys a gyflwynir i chi ar yr hafan ac yn eich ffrydiau newyddion yn cael ei addasu

Byddwn yn arddangos eich enw, sefydliad ac e-bost yn eich maes proffil ac yn eich rhyngweithiadau. Bydd y bobl rydych chi'n eu dilyn yn gallu gweld gwybodaeth broffil fanylach, ond mae gennych chi'r gallu i reoli i ba raddau y mae'r agweddau hyn ar eich gwybodaeth bersonol ar gael i ddefnyddwyr eraill. Ni fyddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth i drydydd parti, ond efallai y bydd defnyddwyr eraill y Gymuned yn dewis cysylltu â chi ar sail gwybodaeth eich proffil. Bydd eich cyfrif yn cael ei ddadactifadu ar ôl cyfnod o 6 mis os nad oes unrhyw weithgarwch, bydd gwybodaeth, cynnwys a rhyngweithiadau eich proffil yn cael eu cadw yng Nghymunedau Gofal Cymdeithasol Cymru. Gellir adfer eich proffil trwy fewngofnodi eto.

Darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd llawn.